YWCA

YWCA is the leading charity working with the most disadvantaged young women in England and Wales.
YWCA ywr brif elusen syn gweithio gydar menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Welsh

cwestiynau cyffredin

Isod ceir atebion i rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi’n aml.

Os nad yw’r ateb i’ch cwestiwn yma, anfonwch ebost atom.

Beth yw’r YWCA?

Pwy yw’r menywod ifanc difreintiedig hyn?

Beth yw oedran y merched a’r menywod yr ydych yn gweithio gyda hwy?

Pam menywod ifanc – yn hytrach na phob person ifanc neu bob menyw?

Beth ydych yn dymuno ei gyflawni?

Ble ydych yn gweithio?

Beth ydych yn ei wneud?

Sut ydych yn gweithio gyda menywod ifanc?

Pwy sy’n talu am eich gwaith?

Beth yw ystyr YWCA?

A ydych yn sefydliad Cristnogol?

Ai’r un sefydliad yw’r YMCA?

A oes gennych hostelau o hyd?

A yw’r YWCA yn gweithredu ledled Prydain?

A yw’r YWCA yn gweithio mewn gwledydd eraill?

Beth yw’r YWCA?

YWCA yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda’r merched a’r menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Pwy yw’r menywod ifanc difreintiedig hyn?

Mae merched yn eu harddegau o gymunedau tlawd yn cael eu hamddifadu o rai o anghenion sylfaenol bywyd, megis arian, addysg neu ddylanwad. Ychydig o rym sydd ganddynt.

Heb ymyrraeth, mae merch sy’n cael ei geni’n dlawd yn debygol o aros yn dlawd.

Yn ogystal â thlodi, gallant wynebu materion eraill megis dibyniaeth ar gyffuriau, trais neu hiliaeth. Gallant ddod o unrhyw gefndir hil, ethnig neu grefyddol. Efallai nad oes ganddynt lais, a’u bod yn anodd cyrraedd atynt.


Beth yw oedran y merched a’r menywod yr ydych yn gweithio gyda hwy?

Rydym yn gweithio’n bennaf gyda merched a menywod rhwng 11 a 30 oed. Dyma’r ystod oed lle mae’r angen mwyaf a lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf.

Pam menywod ifanc – yn hytrach na phob person ifanc neu bob menyw?

Mae menywod ifanc yn wynebu problemau unigryw yng nghymdeithas heddiw.
Nid oes ganddynt lais ac nid oes ganddynt ddylanwad.

Yn rhy aml mae menywod ifanc yn anweledig mewn polisïau a wneir ar gyfer bobl ifanc, neu ar gyfer menywod yn gyffredinol, ac nid yw eu hanghenion yn cael eu cyflawni gan wasanaethau cymysg o ran rhyw.

Mae merched i bob pwrpas yn colli eu lleisiau, gan eu bod o bosib yn ofni siarad. Mae’r YWCA yn bodoli er mwyn pontio’r bwlch hwn.

Beth ydych yn dymuno ei gyflawni?

Rydym am weld dyfodol lle gall menywod ifanc difreintiedig oresgyn rhagfarnau yn eu herbyn a chymryd rheolaeth dros eu bywydau eu hunain.

Ble ydych yn gweithio?

Rydym yn cynnal rhaglenni mewn nifer o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru a Lloegr. Cliciwch yma i weld lle mae ein canolfannau.

Beth ydych yn ei wneud?

Mewn amgylchedd diogel, ar gyfer menywod yn unig, rydym yn cynnal gwasanaethau i gynorthwyo merched yn eu harddegau i herio’r camwahaniaethu y maent yn ei wynebu.

Rydym yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a’r cyfle i ddysgu i filoedd o ferched yn flynyddol.

Rydym yn cynnal ymgyrchoedd gyda hwy ac yn ymchwilio i’r materion y maent yn dweud sy’n eu rhwystro.

Sut ydych yn gweithio gyda menywod ifanc?

Rydym yn gweithio gyda menywod ifanc mewn grwpiau ac yn unigol i’w cynorthwyo i:

  • Adnabod eu hunain a chodi hunan barch
  • Deall pobl eraill ac adeiladu gwell perthynas
  • Cydweithio i adnabod a herio rhagfarn.

Pwy sy’n talu am eich gwaith?

Daw’r mwyafswm o’n cyllid drwy grantiau, taliadau gan y llywodraeth am ein gwaith ac incwm buddsoddiadau. Ond mae dirfawr angen mwy o arian i’n cynorthwyo i weithio gyda’r holl fenywod ifanc difreintiedig sydd angen ein gwasanaethau.

Beth yw ystyr YWCA?

Arferai YWCA olygu The Young Women’s Christian Association, ond bellach enw’r sefydliad yn unig ydyw. Fel arferai IBM olygu International Business Machines, a HMV His Master’s Voice.

Ein henw cofrestredig yw YWCA Cymru a Lloegr. Nid The YWCA, The Young Women's Christian Association na Y.W.C.A.

A ydych yn sefydliad Cristnogol?

Na. Sefydlwyd ni gan fenywod Cristnogol ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel rhan o sefydliad lles elusennol, ond nid yw ein gwaith bellach ar sail ffydd.  Rydym yn gweithio gyda phobl o bob ffydd, neu heb ffydd, ac yn croesawu’r gymdeithas amlddiwylliannol yr ydym yn byw ynddi.

Ai’r un sefydliad yw’r YMCA?

Na. Rydym yn ddwy elusen ar wahân. Sefydlwyd y ddwy yn yr un cyfnod, pan sefydlwyd nifer o elusennau yn cynnig gwaith lles, ond ni fuom ar unrhyw adeg yn elusen ar y cyd. Am wybodaeth am yr YMCA, cliciwch yma.

A oes gennych hostelau o hyd?

Na, mae anghenion menywod ifanc difreintiedig wedi newid, ac rydym wedi newid ein gwaith yn unol â hynny.

Erbyn canol y 1990au roedd llawer o’n llety wedi dyddio a’r gwasanaethau yr oeddem yn eu cynnal yn wahanol i’r hyn yr oedd menywod ifanc yn ei ddymuno. Roedd angen swm sylweddol o waith ar ein heiddo i’w codi i safon dderbyniol, ac roedd yr arian angenrheidiol tu hwnt i gyllideb yr YWCA.

Felly yn 1999 cychwynnwyd trosglwyddo ein hostelau i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill er mwyn iddynt, cyn belled ag ydoedd yn bosibl, barhau i ddarparu tai. Caniataodd hyn i ni ganolbwyntio’n llwyr ar ddarparu gwasanaethau ieuenctid a chymunedol i ferched a menywod, yn hytrach na rheoli rhaglen adeiladu am grocbris.

A yw’r YWCA yn gweithredu ledled Prydain?

Ydi. Mae’r YWCA yn fudiad rhyngwladol.

YWCA Cymru a Lloegr ydym ni, yn elusen gofrestredig ein hunain. Mae YWCA yr Alban yn elusen ar wahân, ac mae’r ddau yn aelodau o ‘brif’ sefydliad, YWCA Prydain. Nid oes YWCA Gogledd Iwerddon.

Mae nifer o YWCA unigol o hyd yn Lloegr, sydd wedi eu cofrestru fel elusennau ar wahân: yn Sheffield, Kendal, Newcastle Upon Tyne a Sunderland. Nid yw’r YWCA hyn, na YWCA yr Alban, yn rhan o YWCA Cymru a Lloegr.

Gyda’i gilydd, mae YWCA Cymru a Lloegr, YWCA yr Alban a’r YWCA annibynnol yn Lloegr, yn ffurfio ‘prif’ sefydliad, YWCA Prydain. Gelwir corff llywodraethol YWCA Prydain yn Gyngor Prydeinig.

Am wybodaeth am YWCA yr Alban, cysylltwch â Chyngor Cenedlaethol YWCA yr Alban ar 0131 225 7592 neu drwy anfon ebost at info@ywcascotland.org

A yw’r YWCA yn gweithio mewn gwledydd eraill?

Mae’r YWCA yn sefydliad byd eang, y mae YWCA Cymru a Lloegr yn gysylltiedig ag ef.
Sefydlwyd YWCA y Byd yn 1894 gan bedair cymdeithas: Prydain, Norwy, Sweden, a’r Unol Daleithiau.

Cychwynnodd yr YWCA yn y lle cyntaf ym Mhrydain, gan dyfu i fod yn sefydliad byd eang o ferched a menywod mewn dros 109 o wledydd ledled y byd. Am wybodaeth am YWCA y Byd, ewch at eu gwefan neu ffoniwch eu pencadlys yn Genefa ar 0041 22 929 6040.

ffaith

ffaith

Mae camdriniaeth ariannol - megis gorfodi menywod i drosglwyddo eu cyflogau - yn ffurf o drais yn y cartref; mae ymchwil yn awgrymu ei fod yn digwydd yn eang.

ffaith

ffaith

Mae 40% o bobl ifanc yn adnabod merched y mae eu cariadon wedi eu gorfodi neu wedi rhoi pwysau arnynt i gael rhyw.

credwn

credwn

...bod angen llefydd diogel a diddorol i ferched eu mynychu, a phethau diddorol i'w gwneud, yn arbennig fin nos ac ar benwythnosau

credwn

credwn

...bod gwaith sy'n draddodiadol yn cael ei weld fel 'gwaith menywod' yr un gwerth â mathau eraill o waith, a dylid eu talu yn unol â hynny

ffaith

ffaith

Mae chwarter menywod y DU yn dioddef trais yn y cartref yn ystod eu bywydau.