YWCA

YWCA is the leading charity working with the most disadvantaged young women in England and Wales.
YWCA ywr brif elusen syn gweithio gydar menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Welsh

hafan

YWCA Cymru a Lloegr

YWCA yw’r brif elusen sy’n gweithio gyda’r menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Mae menywod ifanc yn wynebu problemau unigryw yng nghymdeithas heddiw. Nid yw eu lleisiau yn cael eu clywed yn aml, ac nid oes ganddynt ddylanwad.

Rydym am weld dyfodol lle gallant oresgyn rhagfarnau a rheoli eu bywydau eu hunain.

Rydym yn cynnal gwasanaethau i’w cefnogi ac yn ymgyrchu gyda hwy i herio’r camwahaniaethu y maent yn ei wynebu.

Dywed menywod ifanc sy’n mynychu ein canolfannau eu bod yn gwerthfawrogi’r YWCA oherwydd ei fod ar gyfer menywod yn unig. 

Maent yn hoffi cael amser ar wahân i fechgyn a dynion; mae’n eu galluogi i adeiladu hunan-barch a chyfeillgarwch cryf. Gallant siarad yn agored am bethau sy’n bwysig iddynt mewn awyrgylch lle maent yn gwybod na fyddant yn cael eu barnu.

“Roedd yr YWCA o gymorth i mi godi fy hyder a’m hunan barch.â€
Jenny, 19 oed

Mae YWCA yn elusen gofrestredig, rhif 217868
Mae YWCA yngwmni cyfyngedig drwy warant, rhif 137113.

dyfyniad

 "Mae'r YWCA yn llesol iawn i'r gymuned leol"
Mary Radley, Rheolwr Canolfan Plant a Theuluoedd

credwn

credwn

...bod angen llefydd diogel a diddorol i ferched eu mynychu, a phethau diddorol i'w gwneud, yn arbennig fin nos ac ar benwythnosau

ffaith

ffaith

Mae 40% o bobl ifanc yn adnabod merched y mae eu cariadon wedi eu gorfodi neu wedi rhoi pwysau arnynt i gael rhyw.

credwn

credwn

...y dylai pob person ifanc dderbyn cyngor ac arweiniad gyrfaoedd heb ystrydebau rhywiol

Polisi iaith Gymraeg

Polisi iaith Gymraeg

Mae YWCA Cymru a Lloegr wedi ymrwymo at wasanaethu merched a menywod ifanc yng Nghymru ac amddiffyn eu hetifeddiaeth ddiwylliannol ac ieithyddol.

Fodd bynnag, elusen fechan yw'r YWCA, yn gyfyngedig o ran adnoddau ariannol a dynol, ac ni fedrwn ar hyn o bryd gynnig ein holl wybodaeth arlein yn Gymraeg. Ymddiheurwn wrth siaradwyr Cymraeg am y nifer cyfyngedig o dudalennau Cymraeg sydd ar gael ar y safle. Am gopi o'n polisi iaith Gymraeg, anfonwch ebost atom.