Home
ynglŷn â ni
Mae menywod ifanc yn wynebu problemau unigryw yng nghymdeithas heddiw. Nid yw eu lleisiau yn cael eu clywed yn aml, ac nid oes ganddynt ddylanwad.
Mae’r YWCA am weld dyfodol lle gallant oresgyn rhagfarnau a chymryd rheolaeth o’u bywydau eu hunain. Rydym yn cynnal gwasanaethau i’w cefnogi ac yn ymgyrchu gyda hwy er mwyn herio’r camwahaniaethu y maent yn ei wynebu.
Rydym yn gweithio gyda merched a menywod ifanc 11 i 30 oed. Dyma’r ystod oed lle mae’r angen mwyaf, a lle gallwn wneud y gwahaniaeth mwyaf. Llwythwch y daflen wybodaeth dwy dudalen pdf i lawr yn Gymraeg ac yn Saesneg er mwyn darganfod ein rhesymau dros weithio gyda merched a menywod yn unig.
Mae YWCA Cymru a Lloegr yn elusen gofrestredig, rhif 217868. Ein rhif cwmni yw 137113 a’n swyddfa gofrestredig yw Clarendon House, 52 Cornmarket Street, Rhydychen,
OX1 3EJ.
YWCA ddoe
Sefydlwyd yr YWCA yn 1855 gan Miss Emma Robarts a’r Anrhydeddus Mrs Arthur Kinnaird. Trefnai Miss Robarts grwpiau ar gyfer menywod ifanc oedd yn dod i Lundain am y tro cyntaf, ac agorodd Mrs Kinnaird hostel yn Upper Charlotte Street, Llundain ar gyfer nyrsys Florence Nightingale, ar eu ffordd i ac o’r Crimea.
YWCA heddiw
Mae ein gwaith yn canolbwyntio ar ferched a menywod ifanc o gymunedau tlawd sydd anoddaf cyrraedd atynt. Yn ogystal â thlodi, gallant wynebu problemau eraill megis dibyniaeth, trais neu hiliaeth, ac efallai nad oes ganddynt reolaeth o gwbl dros eu bywydau. Dysgwch beth fedrwn ni ei wneud i helpu.
Llety YWCA
Nid ydym yn darparu llety. Am wybodaeth am lety tymor hir yn Llundain, gweler Women's Link neu ffoniwch hwy ar 0800 6523187. Gellir cael cymorth hefyd gan yr YMCA. Am lety tymor byr, cysylltwch â’r Gymdeithas Hostel Ieuenctid.
Eisiau gwybod mwy? Darllenwch y cwestiynau cyffredin.

credwn

...bod gwaith sy'n draddodiadol yn cael ei weld fel 'gwaith menywod' yr un gwerth â mathau eraill o waith, a dylid eu talu yn unol â hynny
dyfyniad
"Mae'n wych dod i'r YWCA gan fy mod wedi gallu codi llais a bod yn gyfartal. Rwyf wedi cael fy annog i siarad gyda phobl mewn awdurdod."
Kayley, 23
ffaith

Mae camdriniaeth ariannol - megis gorfodi menywod i drosglwyddo eu cyflogau - yn ffurf o drais yn y cartref; mae ymchwil yn awgrymu ei fod yn digwydd yn eang
ffaith

Mae'r mwyafrif o'r swyddi cyflog isaf yn y DU yn llawn menywod
credwn

...bod angen llefydd diogel a diddorol i ferched eu mynychu, a phethau diddorol i'w gwneud, yn arbennig fin nos ac ar benwythnosau
