YWCA

YWCA is the leading charity working with the most disadvantaged young women in England and Wales.
YWCA ywr brif elusen syn gweithio gydar menywod ifanc mwyaf difreintiedig yng Nghymru a Lloegr.

Welsh

what we do

YWCA Cwmafan


happy young womanYWCA Cwmafan yw’r unig wasanaeth sy’n estyn allan at ferched a menywod yn yr ardal. Rydym yn eu hannog i ddweud eu dweud, gwneud ffrindiau newydd a phrofi pethau newydd.

Mae ein grwpiau merched, sy’n cyfarfod ar ôl yr ysgol, yn arbennig o boblogaidd.

Rydym yn cynnig:

  • Sesiynau grŵp, lle mae’r menywod ifanc yn dysgu sut am fwlio, trais yn y cartref, bwyta’n iach, diet ac ymarfer corff, rhyw diogel ac iechyd rhywiol, alcohol a chyffuriau.
  • Cyrsiau penodol ar gyfer mamau ifanc a merched beichiog yn eu harddegau. Rydym yn dysgu sgiliau magu plant ac yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyfle i achredu eu gwaith.
  • Prosiectau cymunedol, gweithdai dawns, celf a chrefft, cyrsiau preswyl neu gweithgareddau awyr agored.
  • Cyngor a gwybodaeth am addysg, sgiliau, hyfforddiant a swyddi. Mae nifer o ferched yn gweld symud rhwng ysgol gynradd ac uwchradd, coleg hyfforddiant neu’r byd mawr yn anodd tu hwnt; a heb gefnogaeth maent mewn perygl o roi'r gorau iddi.

Drwy gydweithio mae cyfeillgarwch newydd yn ffurfio, a all adfer hunan barch. Mae nifer o fenywod ifanc yn symud ymlaen i wirfoddoli a chyfranogi mewn ymgyrchoedd a’u cymuned.

welsh girls

Share

Cysylltwch ywca cwmafan

23 Depot Road
Cwmafan
Port Talbot
De Cymru
SA12 9BA
rhif ffôn: 01639 894184
cyfeiriad ebost: cwmafan@ywca.org.uk

gweler y map

ffaith

ffaith

Mae 40% o bobl ifanc yn adnabod merched y mae eu cariadon wedi eu gorfodi neu wedi rhoi pwysau arnynt i gael rhyw.

dyfyniad

"Mae delweddau o enwogion mewn cylchgronau weithiau yn gwneud i ferched deimlo'n wael am eu hunain. Mae angen cymorth ar lawer o ferched gyda'u hunan barch"
Kelly 18

credwn

credwn

...y dylai pob person ifanc dderbyn cyngor ac arweiniad gyrfaoedd heb ystrydebau rhywiol

sign up for our newsletter

sign up for our newsletter

Sign up for our newsletter to receive regular updates about our work

sign up